The Higher Education Academy, History, Classics and Archaeology

Subject Centre for History,
Classics and Archaeology

Croeso i'r Ganolfan Bwnc ar gyfer Hanes, y Clasuron ac Archaeoleg

Sefydlwyd y Ganolfan Bwnc ar gyfer Hanes, y Clasuron ac Archaeoleg yn 2000 i gynorthwyo dysgu ac addysgu hanes, archaeoleg a'r clasuron ym maes addysg uwch. Mae'n un o 24 canolfan bwnc yn yr Academi Addysg Uwch. Ein diben yw gwella dysgu ac addysgu o ansawdd uchel trwy ddarparu cymorth seiliedig ar bwnc i rannu arloesiadau ac arferion da. Rydym yn cael ein cyllido gan y pedwar corff cyllido ar gyfer addysg uwch yn y DU.

 

Yr hyn rydym ni'n ei wneud
Mae'r Ganolfan Bwnc yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr ar gyfer cynorthwyo a datblygu dysgu ac addysgu Hanes, y Clasuron ac Archaeoleg, gan fynd i'r afael â'r heriau unigryw sy'n wynebu pob disgyblaeth a'r rhai hynny y maent yn eu rhannu. Rydym ni'n darparu cymorth ar ffurf adnoddau a chanllawiau arbenigol sydd wedi cael eu hysgrifennu gan ein cymunedau pwnc ac ar eu cyfer (gweler ein hadnoddau hanes, adnoddau'r clasuron, ac adnoddau archaeoleg); rydym ni'n rhannu arloesiadau ac arferion da trwy ddigwyddiadau, fel gweithdai a chyflwyniadau mewn cynadleddau; ac rydym ni'n nodi, casglu a dosbarthu gwybodaeth a deunyddiau ar arfer da ac ar faterion ehangach, gan gynnwys cyflogadwyedd, ehangu cyfranogiad ac e-ddysgu. Rydym ni hefyd yn cynnig grantiau i academyddion unigol i ddatblygu adnoddau a thechnolegau addysgu newydd a fydd ar gael i bawb.

 

Cadw mewn Cysylltiad
Er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'n cymunedau ynglŷn â'n gwaith, mae gennym ni adran newyddion ar ein gwefan, rhestr bostio y gallwch gofrestru iddi, newyddlen chwe-misol a grŵp ar Facebook. Rydym ni hefyd yn darparu porthiannau RSS er mwyn i chi gael y wybodaeth ddiweddaraf.

 

Cysylltwch â Ni
Mae'r Ganolfan Bwnc ar gyfer Hanes, y Clasuron ac Archaeoleg yn Ganolfan Bwnc ddosranedig â'i phencadlys ym Mhrifysgol Lerpwl. Gallwch gysylltu â ni trwy anfon neges e-bost ar gyfeiriad cyffredinol y Ganolfan Bwnc: hcahea@liverpool.ac.uk a bydd eich ymholiad wedyn yn cyrraedd gweinyddwr y Ganolfan.


Swyddfa Gyffredinol

Cyfeiriad post:
Subject Centre for History, Classics and Archaeology
School of Archaeology, Classics and Egyptology
Hartley Building
Brownlow Street
University of Liverpool
Liverpool L69 3GS

Ffôn: +44 (0) 151 795 0343
E-bost: hcahea@liverpool.ac.uk

 

The Subject Centre for History, Classics and Archaeology, School of Archaeology, Classics and Egyptology, Hartley Building, Brownlow Street, University of Liverpool, Liverpool, L69 3GS, Telephone +44 (0) 151 795 0343, Fax +44 (0) 151 794 5057, Email:  hca.hea@liverpool.ac.uk