

The Hospitality, Leisure, Sport & Tourism Network aims to encourage and broker the sharing of good learning and teaching practice across our subject areas of UK higher education.


Mae'r Rhwydwaith Lletygarwch, Hamdden, Chwaraeon a Thwristiaeth yn cwmpasu'r ystod o feysydd pynciau a gynhwysir yn ein henw, yn ogystal ag eraill megis:
• Hamdden,
• Rheoli Digwyddiadau
• Gwyddor Chwaraeon
Cawsom ein sefydlu ym mis Mai 2000 fel rhan o'r hyn a oedd, ar yr adeg honno, y Rhwydwaith Cefnogi Dysgu ac Addysgu, a ddaeth, yn ei dro, yn rhan o'r Academi Addysg Uwch. Mae 24 o Ganolfannau Pynciau ar draws Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, yr ydym ni'n un ohonynt.
1. Creu a chefnogi rhwydwaith o ymarferwyr addysgol egnïol.
2. Adnabod a lledaenu arfer gorau mewn dysgu, addysgu ac asesu ym meysydd Lletygarwch, Hamdden, Chwaraeon a Thwristiaeth.
3. Annog ymchwil addysgol a lledaenu'r canlyniadau.
Rydyn ni'n gweithio tuag at y nodau hyn trwy amrywiaeth o weithgareddau, y gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rhan fwyaf ohonynt ar y wefan hon. Yn anad dim, rydyn ni'n ymwneud â rhannu arfer a syniadau i wneud y prosesau dysgu ac addysgu yn ein meysydd pwnc yn symlach ac yn fwy effeithiol.
Rydyn ni'n gweithio gyda'r cymdeithasau pynciau cysylltiedig canlynol:
• Y Cyngor Addysg Rheoli lletygarwch - CHME
• Y Gymdeithas Twristiaeth mewn Addysg Uwch - ATHE
• Cymdeithas Astudiaethau Hamdden - LSA
• Cymdeithas Sba, Trin Gwallt a Therapi Harddwch
• Cymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Prydain - BASES
• Sefydliad Chwaraeon, Parciau a Hamdden - ISPAL
• Sefydliad Lletygarwch - IOH
Mae 25 o Gynghorau Sgiliau Sector ledled y wlad. Mae HLST yn gweithio gyda dau ohonyn nhw:
• SkillsActive - Y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer y diwydiant hamdden a dysgu gweithgar.
• People 1st - Y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer y diwydiannau Lletygarwch, Hamdden, Teithio a Thwristiaeth
• Skillsmart - Y Cyngor Sgiliau Sector er Manwerthu